Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Dyddlyfr Llawfeddyg Carchar y Sir, Hwlffordd, 8 Mehefin 1823 - 23 Tachwedd 1823 [delwedd 25 o 147]
Byddai carcharorion benywaidd a oedd newydd roi genedigaeth ac dal i fagu eu babanod yn aml yn cael eu heithrio o'r gwaith corfforol yn y carchar. Yma, mae'r llawfeddyg yn gorchymyn na ddylai unrhyw fenyw sy'n magu plentyn weithio ar yr olwyn (hynny yw, y felin draed): 'No woman that is suckling to be work'd on the Wheel'.
Roedd Carchar y Sir, Hwlffordd, ymhlith un o'r carchardai taleithiol cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio melin draed. Cafodd 'melin' ar gyfer malu blawd ei gyflwyno i'r carchar rhyw dro cyn mis Awst 1823. Cynlluniwyd ac adeiladwyd y felin gan Syr William Cubitt, gŵr a oedd wedi gosod melinau tebyg mewn deuddeng o garchardai Prydeinig eraill. Roedd 64 o garcharorion, dynion a merched, yn medru gweithio ar y felin draed.
Ffynhonnell: Michael Freeman, 'Haverfordwest Castle, 1577-1964' yn Dilllwyn Miles (gol.), 'A History of the Town and County of Haverfordwest' (Llandysul, 1999).