Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Gwisg Gymreig: het i ferched, 19eg ganrif

Gwisg Gymreig: het i ferched, 19eg ganrif Het Gymreig ag ymyl llydan o ail hanner y 19eg ganrif. Perchennog gwreiddiol yr het hon oedd Mrs Edwards o Lanilar (ganed tua'r flwyddyn 1850). Roedd hetiau o'r fath yn ffasiynol iawn pan oedd yn ferch ifanc ond daethant yn fwyfwy amhoblogaidd wrth i'r ganrif fynd yn ei blaen. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roeddynt yn hynodbethau a fyddai'n cael eu gwisgo'n bennaf ar Ddydd Gŵyl Dewi ac achlysuron gwladgarol eraill. Serch hynny, roedd rhai gwragedd oedrannus yn parhau i ddefnyddio hetiau eu hieuenctid ac yn parhau i'w gwisgo ar achlysuron arbennig, fel rhan o'u gwisg gorau. Fel gwraig oedrannus, fe ymddengys bod Mrs Edwards wedi gwisgo ei het Gymreig i fynd ar drip i'r dref leol (Aberystwyth yn ôl pob tebyg) gyda ei merch ar ddiwrnod allan. Yn ôl y dystiolaeth anecdotaidd sy'n goroesi, tra oeddent yn y dref cawsant eu cyfarch gan griw o fechgyn lleol a ofynnodd a oeddynt yn mynd i'r rasys. Gofynnodd un lle'r oedd y rasys yn cael eu cynnal ac fe atebodd un arall mewn hwyl 'Ar ymyl het yr hen wraig.' Roedd Mrs Edwards wedi'i siomi cymaint fel yr aeth ar unwaith i siop leol i brynu bonet mwy ffasiynol. Fe ymddengys iddi benderfynu yn y fan a'r lle i beidio â gwisgo'r het fyth eto. Cyflwynwyd yr het i Amgueddfa Ceredigion nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach gan aelod o'i theulu. Disgrifiad yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Amgueddfa Ceredigion.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ23435

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa Ceredigion (Cyfeirnod yr eitem: 2001/41/1).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

Nid oes gan yr eitem hon dudalennau