Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Awyrlun o chwarel lechi Aberllefenni, 1993
Mae chwarel lechi Aberllefenni, sydd wedi'i lleoli yn nyffryn Dulas, ger Machynlleth, yn parhau i weithio. Chwarel danddaearol ydyw gyda pheth gwaith agored cynnar. Mae'ns dyddio o bosibl o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg ac mae wedi bod yn gweithio mwy neu lai yn barhaol ers hynny. Nid yw'r llechi sy'n cael eu cynhyrchu erbyn hyn yn hollti'n hawdd ond mae'n cynhyrchu slabiau o ansawdd uchel. Roedd y gweithfeydd cynnar yn uchel ar ochr y mynydd, gyda'r gweithfeydd diweddarach ar lefelau is yn olynol, gyda'r fynedfa olaf ar lefel llawr y dyffryn. Ymgymerwyd â'r gwaith diweddarach drwy weithio'n is na lefel y fynedfa isaf. Yn wreiddiol, roedd inclein yn gwasanaethu'r lefelau uchaf mwy neu lai, ond wrth i'r gwaith ddatblygu, cafodd ei fyrhau wrth i'r lefelau isaf agor. Defnyddiwyd pum cwt weindio yn olynol.
Roedd y felin wreiddiol ar droed yr inclein ond ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladwyd melin fawr ym mhentref Aberllefenni, ger terfynfa Rheilffordd Corris. Roedd cael gwared ag ysbwriel yn broblem, ac felly roedd yn rhaid defnyddio llawr y dyffryn. Defnyddiwyd dwy inclein wedi'u cydbwyso â dŵr i gyrraedd brig y pentyrrau gwastraff.
Ym 1883, cofnodir fod 158 o ddynion yn cael eu cyflogi, ond mae'n bosibl bod y ffigwr hwn ynghyd â chofnod y cynnyrch o 4,814 tunnell, yn cynnwys chwareli ar ochr arall y dyffryn, a oedd mewn cydberchnogaeth. Parhaodd tramffordd Aberllefenni, a oedd yn cysylltu'r chwarel â'r felin, i weithio hyd at yr 1970au (er cafodd ei phweru â thractor o tua 1950).
Alun John Richards, 'A Gazeteer of the Welsh Slate Industry' (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1991), tt. 180-1.

