Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Tystysgrif y Llongwr Abl W. C. Williams V.C., yn nodi ei wasanaeth gyda'r Llynges Frenhinol (blaen) [delwedd 1 o 2]
Ymrestrodd William Charles Williams â Gwasanaeth y Bechgyn yn Portsmouth ym 1895. Cafodd ei ddyrchafu i ddosbarth cyntaf y bechgyn ym 1896, yn Longwr Cyffredin ym 1898, ac yn Longwr Abl ym 1901. Ym 1910 ymrestrodd â'r Fflyd Frenhinol Wrth Gefn a chafodd ei alw i wasanaethu yn y Rhyfel ym mis Awst 1914. Yn ystod ei yrfa, gwasanaethodd ar 18 o longau gwahanol, rhai mwy nag unwaith. Bu farw Williams yn Gallipoli ym 1915 wrth iddo gyflawni gweithred ddewr. Cyflwynwyd Croes Victoria iddo yn dilyn ei farwolaeth.
Ffynhonnell: Testun arddangosfa, Amgueddfa Cas-gwent.
Defnyddiwch y chwyddwydr