Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Awyrlun o Bont Britannia, Afon Menai, 1989
Cynlluniwyd pont Britannia gan Robert Stephenson, mab yr arloeswr locomotifau George Stephenson, ac fe'i hadeiladwyd yn y 1840au i gario trenau o'r tir mawr i Ynys Môn. Wynebai'r peirianwyr sawl her wrth godi'r 'bont diwb' hon. Roedd y ddau diwb haearn yn mesur 472 troedfedd o hyd ac yn pwyso tua 1800 tunnell yr un. Er mwyn eu gosod yn eu lle, penderfynwyd y byddai'n rhaid eu nofio ar y dwr, cyn eu codi i'w lle gan ddefnyddio pympiau hydrolig.
Yn dilyn tân difrifol ym 1970, cafodd y bont ei hailgodi ac adeiladwyd ffordd newydd uwchben y rheilffordd.