Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Dyddiadur David Lloyd George, 1886, clawr [delwedd 1 o 146]

Dyddiadur David Lloyd George, 1886, clawr [delwedd 1 o 146] Cadwodd David Lloyd George y dyddiadur hwn tra'r oedd yn gweithio fel cyfreithiwr yng Nghricieth. Mae'n arbenning o ddidorol gan iddo ei ysgrifennu pan yr oedd ar drothwy ei yrfa wleidyddol. Mae'r dyddiadur yn cynnwys cofnodion hir sy'n rhoi manylion am fywyd personol Lloyd George yn ogystal â'i weithgareddau cyhoeddus. Yn arbennig, mae'n disgrifio ei araith gyhoeddus cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog ar 12 Chwefror. Gwnaeth yr araith hon argraff ddofn yn lleol ac fe arweiniodd at sôn y byddai'n cael ei wahodd i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol Meirionnydd y flwyddyn honno. Yn y cofnodion sy'n dilyn, disgrifia Lloyd George yn agored ac mewn cryn fanylder, ei weithgareddau gwleidyddol, ei ddyheadau a'i uchelgais. Ceir nifer o gyfeiriadau dadlennol hefyd at ei garwriaeth gyda Margert Owen o Fynydd Ednyfed, Cricieth. Etholwyd Lloyd George i'r Senedd ym 1890 a daeth yn Brifweinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ym mis Rhagfyr, 1916. Ymddiswyddodd ym 1922 ond parhaodd yn Aelod Seneddol tan 1944.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ26444

Daw'r eitem hon o: Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Cyfeirnod yr eitem: William George 6).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Ffyrnau golosg

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Dyddiadur David Lloyd George, 1886, clawr [delwedd 1 o 146]Dyddiadur David Lloyd George, 1886, clawr [delwedd 1 o 146]Dyddiadur David Lloyd George, 1886, clawr [delwedd 1 o 146]Dyddiadur David Lloyd George, 1886, clawr [delwedd 1 o 146]Dyddiadur David Lloyd George, 1886, clawr [delwedd 1 o 146]Dyddiadur David Lloyd George, 1886, clawr [delwedd 1 o 146]

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Mae gan yr eitem hon ragor o dudalennau
  Nesaf