Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Darluniau yn dehongli bywyd Richard Robert Jones, 'Dic Aberdaron', gan Ellis Owen Ellis, Bryn Coch, 1844, clawr [delwedd 1 o 15]
Cyfres o luniau yn dehongli bywyd Richard Robert Jones, Aberdaron (Dic Aberdaron) gan Ellis Owen Ellis. Ganed Ellis (1813-1861) yn Aber-erch, Sir Gaernarfon, a threuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio yn Lerpwl.
Ganed yr ieithydd a'r crwydryn Richard Robert Jones neu 'Dic Aberdaron' (1780-1843) ym mhentref Aberdaron, Sir Gaernarfon. Er na dderbyniodd fawr o addysg ffurfiol, dywedir ei fod yn siarad o leiaf 14 o ieithoedd yn rhugl. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn teithio'r wlad gyda'i lyfrau a'i gath! Claddwyd ef ym mynwent Llanelwy ym 1844.