Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Sampler (yr wyddor a phennill), a wnaed yn Aberteifi, 1839
Lliain garw brodiog â sidanau lliw mewn pwyth croes. Ar yr ymyl mae llinell igam-ogam gul.
Ar y brig mae pum rhes lorweddol wedi'u gwahanu â llinellau igam-ogam sy'n cynnwys yr wyddor mewn priflythrennau a llythrennau breision a rhifolion 1 i 9 ddwywaith. Oddi tanodd mae pennill ac arysgrif y gwneuthurwr, lleoliad a'r dyddiad gyda nifer o fotiffau fan hyn a fan draw, gan gynnwys calonnau, coronau, fflŵr-de-lis a choeden; enw'r gwneuthurwr (yn anorffenedig) yn cael ei ailadrodd ar y gwaelod.
Arysgrif:
Jane Lloyd
Aged 12
Cardigan June 10 1839
The lilies of the field
That quickly fade aw[-]
ay may well to us a lesson
yield who die as soon as
They
A B J Lloy[d]
Mesuriadau:
35.5 x 21.4 cm





