Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

'Transept of Ewenny Priory, Glamorganshire' gan J. M. W. Turner, tua'r flwyddyn 1797 (dyfrlliw)

'Transept of Ewenny Priory, Glamorganshire' gan J. M. W. Turner, tua'r flwyddyn 1797 (dyfrlliw) Seiliwyd yr olygfa ddramatig hon sy'n edrych ar draws croesfa ddeheuol Priordy Ewenni ar nodiadau a braslun pensel a wnaeth Turner yn ystod ei daith yn ne Cymru ym 1795. Arddangoswyd y llun dyfrlliw gorffenedig hwn yn yr Academi Frenhinol ym 1797 lle y cynhyrfodd un adolygydd gymaint fe ysgrifennodd: ''In point of colour and effect this is one of the grandest drawings we have ever seen, and equal to the best pictures of Rembrandt.'' Sefydlwyd eglwys briordy Sant Mihangel, Ewenni, gan William de Londres, Arglwydd Ogwr. Fe'i hadeiladwyd tua 1115-20 ar gyfer prior a rhwng deg a phymtheng mynach. Mae'n debyg mai Syr Paganus de Turberville o Goety, noddwr y priordy o'r ddeuddegfed ganrif, yw'r ddelw o farchog ar yr allor ar ochr dde'r llun. Testun gan: Yr Adran Gelf, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ27789

Daw'r eitem hon o: Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (Cyfeirnod yr eitem: A 1734).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Chwedl Gelert

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
'Transept of Ewenny Priory, Glamorganshire' gan J. M. W. Turner, tua'r flwyddyn 1797 (dyfrlliw)

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau