Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Cofnodion Achos y Siartwyr: Croesholiad Morgan James o Billgwenlly, cyf. 4, tudalen 55 [delwedd 1 o 3]
Croes-holiad Morgan James yn ystod achos llys arweinwyr y Siartwyr, yn dilyn y Gwrthryfel yng Nghasnewydd, Tachwedd 1839.
Roedd Morgan James yn byw yn Pillgwenlly, Casnewydd, ac yn gweithio fel labrwr ym mhwll glo Fleur-de-Lis, ger Coed-duon. Ymunodd â'r Siartwyr yng Nghasnewydd gan fynychu nifer o gyfarfodydd y Siartwyr yn yr ardal. Wrth gael ei holi, soniodd James am y gyfarfod mawr a gynhaliwyd yn Dukestown ym mis Awst 1839, lle'r oedd John Frost a William Jones yn bresennol. Yn ôl James, roedd y ddau wedi annerch y cyfarfod ac wedi dweud bod digon o bobl yn Dukestown i sicrhau'r Siarter trwy ddulliau treisgar: 'They were men enough in Dukes Town to take the Charter by force.'
Er ei fod yn gweithio yng Nghoed-duon, roedd James yn dychwelyd i'w gartref yn Pillgwenlly bob penwythnos, a soniodd am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y penwythnos hwnnw ym mis Tachwedd pan ymosodwyd ar Gasnewydd gan y Siartwyr. Cyfarfu â Jenkin Morgan, gŵr lleol a oedd yn aelod o'r Siartwyr, a gofynnodd hwnnw iddo sut hwyl yr oedd y Siartwyr wedi ei gael 'yn y mynyddoedd'. Galwodd Jenkin Morgan i'w weld y diwrnod canlynol, sef dydd Sul, 3 Tachwedd, a dywedodd wrtho na ddylai adael y dref gan fod John Frost yn y mynyddoedd a'i fod am arwain miloedd o ddynion i ymosod ar y milwyr y noson honno. Aeth Morgan James gyda Jenkin Morgan i gyrion Casnewydd, lle dywedodd Jenkin Morgan wrtho y byddai digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal ar draws y wlad ar yr un pryd, gyda'r nod o sicrhau'r Siarter: 'things were to take place all over the kingdom at the same hour and that the consequences would be the Charter being the law of the land'.
Yn ei dystiolaeth, datgelodd Morgan James hefyd fod gŵr o'r enw Dr. Price wedi cadeirio cyfarfod y Siartwyr yn Dukestown, ond mai dyna'r tro cyntaf a'r tro olaf iddo weld Dr. Price mewn unrhyw gyfarfod. Hwn oedd Dr. William Price o Bontypridd (1800-93), gŵr a fu'n arwain y Siartwyr ym Mhontypridd, ond a benderfynodd adael y mudiad oherwydd y dulliau treisgar a fabwysiadwyd gan rai aelodau.
Defnyddiwch y chwyddwydr
![Cofnodion Achos y Siartwyr: Croesholiad Morgan James o Billgwenlly, cyf. 4, tudalen 55 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ15752.jpg)
![Cofnodion Achos y Siartwyr: Croesholiad Morgan James o Billgwenlly, cyf. 4, tudalen 55 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ16537.jpg)
![Cofnodion Achos y Siartwyr: Croesholiad Morgan James o Billgwenlly, cyf. 4, tudalen 55 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ17427.jpg)
![Cofnodion Achos y Siartwyr: Croesholiad Morgan James o Billgwenlly, cyf. 4, tudalen 55 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ17457.jpg)
![Cofnodion Achos y Siartwyr: Croesholiad Morgan James o Billgwenlly, cyf. 4, tudalen 55 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ18319.jpg)
![Cofnodion Achos y Siartwyr: Croesholiad Morgan James o Billgwenlly, cyf. 4, tudalen 55 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ18409.jpg)