Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Croesfar angor plwm, c. 100-200

Croesfar angor plwm, c. 100-200 Croesfar angor plwm a ddarganfuwyd gan blymwyr ger arfordir Pen Llŷn ym 1974. Dyma'r unig un o'i fath sydd wedi'i ddarganfod yn nyfroedd Prydain. Mae'n dyddio o'r ail ganrif neu'r ganrif gyntaf CC ac mae'n rhoi tystiolaeth werthfawr o bresenoldeb llongau ar arfordir Cymru cyn i'r Rhufeiniaid gyrraedd Prydain. Yn ôl ei faint, fe ddaeth o gwch weddol fach, a oedd yn teithio o bosibl o Fôr y Canoldir i Gernyw i fasnachu ar gyfer tun, neu o bosibl Sir Fôn, lle'r oedd copr yn cael ei fwyngloddio. Ar un ochr mae pedwar mowldiad yn cynrychioli tafliad lwcus mewn gem o dandies. Roedd hwn yn rhyw fath o hud, oherwydd roedd angen lwc ar y criw wrth iddynt daflu'r angor, gan nad oeddynt fyth yn siŵr ble ar wely'r môr y byddai'n gafael.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ31546

Daw'r eitem hon o: Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (Cyfeirnod yr eitem: 75.27H).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau