Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Stamp bara Rhufeinig o Gaerllion
Stamp bara wedi ei wneud o blwm, gyda'r arysgrif 'Canwyr Quintinius Aquila'. Byddai pob canwyr (80 o ddynion) yn pobi ei fara ei hun, ac weithiau byddent yn gosod stamp ar y bara. Cafodd y bara croyw a welir yn y llun ei bobi'n ddiweddar. Roedd y milwyr Rhufeinig yn bwyta amrywiaeth o fwyd da: byddai'r prif ddeiet yn cynnwys gwenith, porc, caws, halen a gwin sur, ac ychwanegid amrywiaeth eang o lysiau, ffrwythau a chynnyrch anifeiliaid i'r ymborth.
Yr enw Rhufeinig ar Gaerllion, 'Dinas y Lleng', oedd Isca. Sefydlwyd y gaer yn y flwyddyn 74 neu 75 OC, a hon oedd un o dair canolfan barhaol y llengfilwyr Rhufeinig ym Mhrydain: y ddwy arall oedd Caer (Deva) ac Efrog (Eberacum). Roedd y gaer wedi ei lleoli ger y groesfan isaf ar lan Afon Wysg, mewn safle allweddol ar y rhwydwaith ffyrdd milwrol yn ne Cymru. Roedd y gaer yn gartref i'r Ail Leng Augusta a oedd yn cynnwys ymhell dros 5,000 o filwyr traed. Gadawodd y milwyr Gaerllion ar ddiwedd y drydedd ganrif.


