Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Hwch neu ingot plwm a chacen neu ingot copr wedi ei stampio, o Garmel, Sir y Fflint (Rhufeinig)

Hwch neu ingot plwm a chacen neu ingot copr wedi ei stampio, o Garmel, Sir y Fflint (Rhufeinig) Hwch blwm neu gast haearn mewn mowld siâp cafn. Mae G(ai) Nipi wedi'i stampio ar y top. Ascani, '(Cynnyrch) Gaius Nipius Ascanius, enw gŵr busnes preifat, a oedd yn gweithio maes plwm Sir y Fflint mor gynnar â'r flwyddyn 60 OC. Yn ddiweddarach, yn ystod y Goncwest Rufeinig yng Nghymru, gweithiwyd maes plwm Sir y Fflint gan y llywodraeth. Roedd y fyddin angen symiau mawr o blwm ar y pryd ar gyfer gwaith adeiladu yn y gaer lengol newydd yng Nghaer lle mae pibelli dŵr wedi'u darganfod gyda'r enw Agricola, Llywodraethwr Prydain o 78-84 OC. Cacen neu ingot copr wedi'i stampio ddwywaith gyda dau enw: Iul(ius) 'Julius' ac ES(. . .), enwau deiliaid prydles neu stiwardiaid y mwynglawdd yn ôl pob tebyg. Ceir tystiolaeth o fwyngloddio copr yn Sir Fôn ac arfordir Gwynedd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid. Byddai'r mwyn copr yn cael ei rostio neu'i doddi tua 1100 gradd Celsius. Roedd y metel toddedig yn rhedeg i mewn i gafn y tu allan i'r ffwrnais, a oedd yn ffurfio'r ingot siâp bynsen gwahanredol. Mae'r ffaith i ingotiau gael eu dosbarthu yn Sir Fôn yn awgrymu bod peth o'r copr yn cael ei allforio i'r cyfandir o Aberffraw.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ31580

Daw'r eitem hon o: Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (Cyfeirnod yr eitem: 50.188, 27.615).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Baddonau pwll glo

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Hwch neu ingot plwm a chacen neu ingot copr wedi ei stampio, o Garmel, Sir y Fflint (Rhufeinig)Hwch neu ingot plwm a chacen neu ingot copr wedi ei stampio, o Garmel, Sir y Fflint (Rhufeinig)Hwch neu ingot plwm a chacen neu ingot copr wedi ei stampio, o Garmel, Sir y Fflint (Rhufeinig)Hwch neu ingot plwm a chacen neu ingot copr wedi ei stampio, o Garmel, Sir y Fflint (Rhufeinig)

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau