Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pwced ganoloesol o Gastell y Bere, Llanfihangel-y-Pennant, 13eg ganrif

Pwced ganoloesol o Gastell y Bere, Llanfihangel-y-Pennant, 13eg ganrif Pwced bren a wnaed o erwydd derw, gyda dolen haearn. Amgylchynwyd y bwced gan frigau helyg a phegiau cyfoes. Credir mai'r Tywysog Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) oedd yn gyfrifol am godi Castell y Bere, tua'r flwyddyn 1221. Dim ond am ychydig ddegawdau y bu'r castell yn nwylo'r Cymry oherwydd ym mis Ebrill 1283 ildiodd y castell i'r Saeson, y castell olaf i gael ei drechu gan Edward I yn ystod ei ymgyrch yn erbyn y Cymry. Yn dilyn hyn, cafodd y castell ei atgyweirio i raddau a sefydlwyd rhyw fath o anheddiad ger troed y bryn creigiog. Bu un ymgais arall i adennill y castell ym 1294, pan arweinodd Madog ap Llywelyn wrthryfel byrhoedlog yn erbyn y Saeson. Trechwyd Madog y flwyddyn ganlynol a daeth diwedd ar oes fer Castell y Bere. Gadawodd y Saeson yr anheddiad gerllaw ac ni ddefnyddiwyd y castell fyth wedyn. Ffynhonnell: http://www.castlewales.com/cybere.html


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ31602

Daw'r eitem hon o: Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (Cyfeirnod yr eitem: 53.123/4). Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, neu os oes gennych ymholiad yngl?n â copyright, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod.

Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau