Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Jwg crochenwaith canoloesol o Gaerdydd
Yn ôl cofnodion Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, daethpwyd o hyd i'r jwg hwn 'wrth godi lloriau swyddfa yn Wharton Street neu rywle arall' [Caerdydd] yn ystod y 19eg ganrif. Mae'r gwydredd gwyrdd, y dawnswyr a'r pennau sy'n ymddangos ar yr ymyl, oll yn awgrymu iddo gael ei gynhyrchu mewn odyn yn Ham Green, ar lan Afon Avon, ger Bryste, yn ystod y 13eg ganrif.





