Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gŵn llys a phais, 1720au
Gŵn llys a phais, 1720au. Sidan caerog glas golau wedi'i frodio'n drwm ag edau arian. Mae'r gŵn wedi'i haddasu ac mae rhan fwyaf o'i chwt wedi'i thorri i ffwrdd; nid yw'r bais wedi'i haddasu. Eiddo teulu Morgan, Parc Tredegar, Sir Fynwy. Fe'i gwisgwyd o bosibl gan yr Arglwyddes Rachel Cavendish wedi ei phriodas â Syr William Morgan ym 1720.
