Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Evan Jones, a fu'n ymladd yn Rorke's Drift - tynnwyd y llun, tua'r flwyddyn 1917
Roedd Evan Jones (1859-1931) o Lyn Ebwy wedi bod yn ymladd yn Rorke's Drift, a wynebodd gyfnod pellach o ryfela ym Myrma (1887-1889). Bu'n gwasanaethu mewn nifer o unedau nes iddo gael ei ryddhau o'r fyddin ym 1920, a hynny wedi iddo gwblhau cyfnod o 43 mlynedd o wasanaeth milwrol.
Cyfeirnod yr eitem: : GTJ40210