Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Medal Ymgyrchu, De Affrica, 1877-9 [delwedd 1 o 2]
Mae'r fedal hon yn cofnodi un o'r rhyfeloedd mwyaf dramatig yn hanes milwrol Prydain. Cafodd ei chyflwyno i'r Preifat Evan Jones, 2/24ain Milwyr Traed, sef un o'r garsiynau bychain yn Rorke's Drift a lwyddodd i oresgyn ymosodiad gan filoedd o ryfelwyr Zwlw ar 23 Ionawr 1879 - y diwrnod wedi i'r Zwlws chwalu byddin Brydeinig fawr yn Isandhlwana gerllaw.