Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Ceiniogau y trawsfeddiannwr Rhufeinig Allectus, o gelc arian Rogiet, 293-296 O.C.
Cyflwynwyd y darn arian newydd, gyda'r llythyren 'Q', am y tro cyntaf gan Allectus. Mae'r ceiniogau hyn i gyd yn dangos gwahanol longau rhyfel, ac yn cynrychioli dibynniaeth Allectus ar ei lynges. Darganfuwyd dros 750 o enghreifftiau o'r argraffiad yng nghelc arian Rogiet - a ddarganfuwyd ym 1998. Hwn oedd y darganfyddiad mwyaf arwyddocaol o'r math hwn o arian bath yn unrhyw fan ers 1860.





