Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Tu mewn i ffermdy Hendre'r-ywydd Uchaf, Amgueddfa Werin Cymru

Tu mewn i ffermdy Hendre'r-ywydd Uchaf, Amgueddfa Werin Cymru Mae Hendre'r-ywydd Uchaf yn ffermdy un llawr a adeiladwyd ym 1508. Mae'n nodweddiadol o'r math o ffermdai roedd aelodau cyfoethocaf cymdeithas Gymreig yn eu perchen yn ystod y cyfnod Modern Cynnar. Byddai'r da byw yn cael eu cadw ym mhen pellaf y tŷ tra bod y teulu'n byw yn y pen arall. Fel y gwelir yn y ffotograff hwn, prin iawn oedd dodrefn yn y tŷ.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ40432

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa Werin Cymru (Cyfeirnod yr eitem: Tr91.454.60).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma