Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Engrafiad o draphont rheilffordd Cnwclas, tua'r flwyddyn 1865
Engrafiad o draphont rheilffordd newydd a chain Cnwclas ar Reilffordd Canolbarth Cymru. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn yr Illustrated London News yn yr 1860au. Mae uchder yr adeiladwaith wedi ei orwneud rhywfaint gan yr arlunydd Fictoraidd. Serch hynny, roedd y draphont yn un o nifer fawr o gampau trawiadol cyflawnwyd gan beirianwyr oes Fictoria.




