Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Ffosil: Esgyrn Morganucodon, un o'r gwir famaliaid cynharaf [delwedd 1 o 2]

Ffosil: Esgyrn Morganucodon, un o'r gwir famaliaid cynharaf [delwedd 1 o 2] Ym 1947 darganfuwyd esgyrn bychain rhai o'r gwir famaliaid cynharaf yn y darn hwn o graig coch. Mae'r graig yn cynnwys deunydd a gafodd eu gadw mewn holltau yn y Calchfaen Carbonifferaidd, ac mae'n bwysig iawn gan mai prin iawn yw'r enghreifftiau tebyg o esgyrn brau fel hyn. Ar ddiwedd y cyfnod Triasig, roedd y creigiau a oedd yn ffurfio'r rhan fwyaf o dde Cymru yn debyg iawn i'r creigiau a welir heddiw. Roedd Bro Morgannwg yn dechrau cael ei orchuddio gan fr bas, gyda'r bryniau Calchfaen Carbonifferaidd yn ffurfio ynysoedd bychain. Cafodd gweddillion y planhigion a'r anifeiliaid a oedd yn byw yno eu golchi i'r ogofu a'r holltau yn y calchfaen. Cafodd yr ynysoedd eu gorchuddio gan ddŵr yn y pen draw ar ddechrau'r cyfnod Jwrasig a gorchuddiwyd yr holl ardal gan fwy o greigiau gwaddod diweddar - mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi cael eu herydu bellach. Dim ond mewn rhai chwareli Triasig y daw'r holltau i'r golwg heddiw, ond weithiau maent yn cynnwys ffosilau esgyrn a dannedd deinosoriaid bychain, gwahanol ymlusgiaid a mamliaid cynnar, ynghyd gweddillion planhigion. Roedd Morganucodon a Kuehneotherium, dau o famaliaid cynharaf y byd, yn anifeiliaid bychain, tebyg i lŷg neu lygod daear, a oedd fawr mwy na 3cm o hyd. Roeddynt yn byw ar yr un pryd 'r deinosoriaid cynharaf. Credir eu bod yn bwyta trychfilod, ac mae'n bosibl eu bod yn anifeiliaid nosol.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ63147

Daw'r eitem hon o: Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (Cyfeirnod yr eitem: NMW 55.539.G1).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Pasiantau

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Ffosil: Esgyrn Morganucodon, un o'r gwir famaliaid cynharaf [delwedd 1 o 2]Ffosil: Esgyrn Morganucodon, un o'r gwir famaliaid cynharaf [delwedd 1 o 2]Ffosil: Esgyrn Morganucodon, un o'r gwir famaliaid cynharaf [delwedd 1 o 2]Ffosil: Esgyrn Morganucodon, un o'r gwir famaliaid cynharaf [delwedd 1 o 2]Ffosil: Esgyrn Morganucodon, un o'r gwir famaliaid cynharaf [delwedd 1 o 2]Ffosil: Esgyrn Morganucodon, un o'r gwir famaliaid cynharaf [delwedd 1 o 2]

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau