Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pwysau stiliard a ddarganfuwyd yng Nghastell Trefaldwyn [delwedd 1 o 4]

Pwysau stiliard a ddarganfuwyd yng Nghastell Trefaldwyn [delwedd 1 o 4] Daethpwyd o hyd i'r pwysau stiliard hwn yng Nghastell Trefaldwyn yng ngwanwyn 1970. Mae'r pwysau yn cario arfbeisiau Lloegr, Poitou, Richard, Iarll Cernyw, a'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Credir ei fod yn dyddio o ail hanner y 13eg ganrif. Yma gwelir symbol eryr deuben i gynrychioli marsiandwyr Hansa. Dechreuwyd adeiladu Castell Trefaldwyn ym 1233 gan Harri III, ar safle hen gastell tomen a beili. Codwyd y castell yn ystod ymgyrch Harri III yn erbyn Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) ac fe'i roddwyd yn nwylo Hubert de Burgh ym 1228. Roedd y castell yn nwylo'r teulu Mortimer yn ystod y 14eg ganrif. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, ymladdwyd brwydr fawr yn Nhrefaldwyn ym mis Medi 1644, gyda hyd at 9,000 o filwyr yn cymryd rhan yn yr ymladd. Ildiodd y castell i'r Seneddwyr ac fe'i dinistriwyd ymron yn llwyr yn dilyn y rhyfel ar orchymyn y Senedd. Ffynonellau: http://www.castlewales.com/montgom.html Cadw, 'A Nation Under Siege: The Civil War in Wales, 1642-48' (London, HMSO, 1991).


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ64785

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa'r Old Bel (Cyfeirnod yr eitem: 2001-19 ).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Twnnelau rheilffordd

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Pwysau stiliard a ddarganfuwyd yng Nghastell Trefaldwyn [delwedd 1 o 4]Pwysau stiliard a ddarganfuwyd yng Nghastell Trefaldwyn [delwedd 1 o 4]

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Mae gennym ddelweddau eraill o'r eitem hon