Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
'Coedpenmaen English Baptist Chapel' gan Esther Grainger (olew), 20fed ganrif
Ganed Esther Grainger (1912-90) yng Nghaerdydd, ac ar ôl cyfnod o hyfforddiant yn Ysgol Gelf Caerdydd, bu'n gweithio fel athrawes gelf a chrefft ymhlith cymunedau dirwasgedig cymoedd y de ar ran Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol De Cymru a Mynwy yn ystod y 1930au. Daeth i adnabod nifer o artistiaid eraill a oedd yn gweithio gyda'r Treflannau Addysg ym Mhontypridd a Dowlais, a chymerodd ran flaenllaw yng ngwaith Cymdeithas Gelf Merthyr gan ymgymryd â swydd ysgrifennydd Ffederasiwn Clybiau Cerdd a Chelf Cymru ym 1944.
