Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Portread o William Edwards (1719-89), pensaer yr Hen Bont, Pontypridd
Ganed William Edwards (1719-89), yn Groeswen, ger Caerffili. Roedd yn weinidog gyda'r Annibynnwyr yn Groeswen ond mae'n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus fel pensaer yr 'Hen Bont' ym Mhontypridd. Credir mai'r bont hon yw un o'r pontydd mawr mwyaf peryglus ac un o'r rhai a ddefnyddid leiaf yng Nghymru. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu'r bont ym 1746 ym mhentref bach Pont-y-ty-pridd, fel y'i gelwid y pryd hwnnw. Gwnaeth Edwards bedwar cynnig ar adeiladu'r bont cyn llwyddo i'w chwblhau ym 1755. Costiodd y tair ymgais ofer a'r bedwaredd £1,153 18s. 2g. iddo, ac felly bu'r adeiladydd ar ei golled o tua £600. Roedd Edwards hefyd yn gyfrifol am godi pontydd ym Mrynbuga, Pontardawe, Bettws, Dolauhirion, Wychtree, Aberafan, a Glasbury. Roedd rhai o'r pontydd hyn yn debyg i'r bont ym Mhontypridd, sef yn bontydd un bwa, ond yn llai serth na honno. Codwyd plac, gan y cerflunydd W. Goscombe John, ar wal yr hen gapel yn Groeswen i gofio am William Edwards.
Ffynhonnell:
Y Bywgraffiadur Arlein
http://yba.llgc.org.uk





