Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
James James (1833-1902), cyfansoddwr 'Hen Wlad fy Nhadau'
James James (Iago ap Ieuan, 1833-1902), oedd yn gyfrifol am gyfansoddi alaw'r anthem genedlaethol 'Hen Wlad fy Nhadau' ym 1856. Roedd ei dad, Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-93) yn fardd a chredir mai ef oedd yn gyfrifol am ysgrifennu'r geiriau. Cyhoeddwyd y gân yn y gyfrol 'Gems of Welsh Melody' (1860) a daeth yn hynod boblogaidd ymron ar unwaith. Nid yw'n sicr pryd yn union y cafodd y gân ei mabwysiadu fel anthem cenedlaethol Cymru.