Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Adfeilion hen Grochendy Nantgarw, ger Pontypridd, tua'r 1930au

Adfeilion hen Grochendy Nantgarw, ger Pontypridd, tua'r 1930au Sefydlwyd Crochendy Nantgarw ym 1813 gan Samuel Billingsley (a gafodd ei adnabod hefyd yn William Beeley) a'i fab yng nghyfraith Samuel Walker. Lleolwyd y crochendy wrth ochr Camlas Morgannwg, ac roedd y gamlas yn cael ei defnyddio i gludo clai o Gaerdydd ac i anfon y cynnyrch gorffenedig i Lundain i'w allforio. Arbenigodd y crochendy mewn cynhyrchu porslen meddal, ond oherwydd problemau ariannol cafodd ei gau ym 1819. Ail-ddechreuwyd cynhyrchu crochenwaith ar y safle ym 1833 o dan reolaeth William Henry Pardoe. Canolbwyntiodd y crochendy ar gynhyrchu pibau clai a llestri priddwaith gwydredd brown a elwid yn grochenwaith Rockingham. Caeodd y crochendy am y tro olaf ym 1921.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ69241

Daw'r eitem hon o: Llyfrgell Ganolog Caerdydd (Cyfeirnod yr eitem: ).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Offer

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Adfeilion hen Grochendy Nantgarw, ger Pontypridd, tua'r 1930auAdfeilion hen Grochendy Nantgarw, ger Pontypridd, tua'r 1930auAdfeilion hen Grochendy Nantgarw, ger Pontypridd, tua'r 1930auAdfeilion hen Grochendy Nantgarw, ger Pontypridd, tua'r 1930auAdfeilion hen Grochendy Nantgarw, ger Pontypridd, tua'r 1930auAdfeilion hen Grochendy Nantgarw, ger Pontypridd, tua'r 1930au

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau