Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Angladd dau ddyn a laddwyd yn Llanelli yn ystod Streic y Rheilffyrdd, 1911

Angladd dau ddyn a laddwyd yn Llanelli yn ystod Streic y Rheilffyrdd, 1911 Angladd y ddau ddyn ifanc, sef Leonard Worsell a John John, a saethwyd gan filwyr yn ystod Terfysgoedd Streic y Rheilffyrdd yn Llanelli ym 1911. 'Yr Aflonyddwch Mawr' yw'r enw a roddir ar y cyfnod rhwng 1908 a 1914, pan fu nifer o anghydfodau diwydiannol ym Mhrydain. Yn ne Cymru, aeth glowyr cwmni'r Cambrian Combine ar streic, gan wrthdaro gyda'r fyddin yn Nhonypandy ym 1910; ac arweinodd streic gan ddocwyr Caerdydd at ymosodiadau ar gymuned Tseinieaidd y dref. Yn ystod haf 1911, aeth gweithwyr rheilffyrdd Prydain ar streic gan achosi anhrefn mewn rhannau o'r wlad a galwyd ar y fyddin i ymyrryd er mwyn cadw'r trenau i redeg. Ddydd Iau, 17 Awst, daeth y trenau i stop yn Llanelli pan safodd y streicwyr ar un o'r croesfannau yn y dref. Y diwrnod canlynol, galwyd ar y fyddin i glirio'r llinell ond yn fuan iawn collwyd rheolaeth ar y sefyllfa, darllenwyd y Ddeddf Derfysg, taniwyd sawl ergyd, a lladdwyd dau ddyn diniwed (Leonard Worsell a John John). Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ymgasglodd torf gan ymosod ar gartref a lle gwaith un o'r ynadon lleol a fu'n bresennol yn y digwyddiad cynharach. Tua'r un adeg, cafodd nifer o wagenni rheilffyrdd a oedd yn cludo tanwyr eu rhoi ar dân, gan achosi ffrwydriad a laddodd pedwar o bobl gan anafu nifer o bobl eraill. Darllen pellach: John Edwards, 'Remembrance of a Riot: the story of the Llanelli Railway Strike Riots of 1911' (Llanelli Borough Council, 1988).


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ69244

Daw'r eitem hon o: Llyfrgell Ganolog Caerdydd (Cyfeirnod yr eitem: Astudiaethau Lleol / Local Studies S 10).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Cawl

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Angladd dau ddyn a laddwyd yn Llanelli yn ystod Streic y Rheilffyrdd, 1911Angladd dau ddyn a laddwyd yn Llanelli yn ystod Streic y Rheilffyrdd, 1911Angladd dau ddyn a laddwyd yn Llanelli yn ystod Streic y Rheilffyrdd, 1911Angladd dau ddyn a laddwyd yn Llanelli yn ystod Streic y Rheilffyrdd, 1911Angladd dau ddyn a laddwyd yn Llanelli yn ystod Streic y Rheilffyrdd, 1911Angladd dau ddyn a laddwyd yn Llanelli yn ystod Streic y Rheilffyrdd, 1911

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau