Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Cofgolofn John Batchelor, Yr Aes, Caerdydd, c. 1890au

Cofgolofn John Batchelor, Yr Aes, Caerdydd, c. 1890au Cofgolofn John Batchelor (1820-83), 'The Friend of Freedom', yn Yr Aes, Caerdydd. Cafodd y gofgolofn ei chynllunio gan y cerflunydd James Milo Griffith a'i dadorchuddio ar 16 Hydref 1886. Cafodd John Batchelor ei eni yng Nghasnewydd ond symudodd i Gaerdydd yn ystod y 1840au lle aeth ati i sefydlu busnes gwerthu coed yn Noc Gorllewin Biwt. Chwaraeodd ran weithgar iawn ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Caerdydd, a bu'n gynghorydd ac yn faer am gyfnod. Ym 1869 cafodd ei ethol yn Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Caerdydd. Roedd hefyd yn ffigur blaenllaw ym meysydd crefydd ac addysg yng Nghaerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn, bu Batchelor yn gwrthdaro gyda theulu pwerus y Biwt (a oedd yn cefnogi'r blaid Dorïaidd), ac roedd yn ddraenen gyson yn ei hystlys. Yn wir, roedd nifer o'i gefnogwyr o'r farn i'w fusnes adeiladu llongau fynd i'r wal oherwydd ymyrraeth y teulu Biwt. Yn dilyn ei farwolaeth ym 1883, sefydlwyd cronfa arbennig i godi cofeb iddo. Fodd bynnag, ar ôl i'r gofglofn hon gael ei dadorchuddio, fe esgorodd ar deimladau cryf yng Nghaerdydd a chyhoeddodd papur newydd y 'Western Mail' (a oedd yn gefnogwr brwd i'r teulu Biwt), feddargraff ffug a ysgrifennwyd gan elynion gwleidyddol Batchelor. Cafodd deiseb ei llunio hefyd, wedi ei harwyddo gan 1200 o bobl, yn galw ar y cyngor i dynnu'r gofgolofn i lawr.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ73140

Daw'r eitem hon o: Llyfrgell Ganolog Caerdydd (Cyfeirnod yr eitem: Astudiaethau Lleol/Local Studies141).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Melinau llifio

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Cofgolofn John Batchelor, Yr Aes, Caerdydd, c. 1890auCofgolofn John Batchelor, Yr Aes, Caerdydd, c. 1890au

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau