Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Aneddiadau Oes yr Efydd » Aneddiadau Oes yr Efydd
Awyrlun o grug crwn Black Mixen, Maesyfed (New Radnor), 2001
  • Yn ystod Oes yr Efydd, gwnaed y llestri pridd drwy adeiladu potiau allan o goiliau o glai.  Mae'n bosibl eu bod wedi'u cynhyrchu gan deuluoedd unigol a oedd yn gwneud digon i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, ac mae'r dystiolaeth yn dangos nad cyfrifoldeb y merched yn unig oedd hyn, fel a welir yn y ffotograff hwn.
Adluniad o gynhyrchu crochenwaith yn ystod Oes yr Efydd tua'r flwyddyn 1750CC)
  • Mae'r darlun hwn, sydd wedi'i osod yn ystod yr Oes Efydd Gynnar, yn dangos gweithiwr metel yn arllwys efydd toddedig i mewn i fowld carreg ar gyfer creu bwyell.  Yn y blaen ar yr ochr dde mae amrywiaeth o fwyeill a dagrau sydd eisoes wedi'u cynhyrchu.
Adluniad o weithiwr metal tua'r flwyddyn 2000CC
  • Mae'r darlun hwn, sydd wedi'i osod ar ddiwedd Oes yr Efydd, yn dangos gweithiwr metel yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o eitemau efydd sydd eisoes wedi'u cynhyrchu.  Mae'r rhain yn cynnwys bwyeill, crochanau, cleddyfau a blaenau gwaywffyn.
Adluniad o weithiwr metal tua'r flwyddyn 800CC
  • Arfau oedd llawer o'r offer cyntaf i gael eu gwneud o fetel.  Mae'r darlun yn dangos rhai o'r rhain yn cael eu defnyddio yn ystod ymosodiad arfordirol.
Adluniad o ryfelwyr, tua'r flwyddyn 1100CC
  • Mae'r darlun hwn yn dangos y math o offer a oedd yn cael eu defnyddio wedi i'r gwaith metel gael ei gyflwyno i Gymru.  Ar y pryd, roedd offer cerrig yn dal i gael eu defnyddio, er enghraifft blaenau saethau, tra oedd offer fel pennau saethau yn cael eu gwneud o efydd.
Adluniad o ryfelwyr o Oes yr Efydd, tua'r flwyddyn 2500CC