Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Gwisg ac addurniadau personol » Ffasiynau
  • Mae 'Falling Stars' wedi'i gwneud o fiscos wedi'i droelli ag edau lwrecs aur, wedi'i addurno â disgiau ffoiledig aur 18 carat wedi'u torri â llaw ynghyd â secwinau.  Fe'i cynhyrchwyd ar gyfer Casgliad Gwanwyn / Haf 2000 ac mae Kate Moss, Kylie Minogue a Joely Richardson wedi'i gwisgo.
'Falling Stars', gan Julien Macdonald
  • Yn y llythyr hwn, mae Mary Granville (Mrs Delany yn ddiweddarach) yn mynegi ei theimladau ynghylch seremoni goroni'r Brenin Siôr II.  Roedd Mary yn bresennol yn y seremoni.   Ar y tudalen hwn mae hi'n trafod y dillad ffasiynol a oedd yn cael eu gwisgo yn Neuadd Westminster yn y wledd a ddilynodd y seremoni.

Ganed Mary Granville (1700-1788) yn Coulston, Swydd Wiltshire, yn ferch i deulu aristocrataidd a dylanwadol.  Priododd Alexander Pendarves, Aelod Seneddol oedrannus, ym 1718 ond bu yntau farw ym 1725 a symudodd Mary i Lundain lle daeth yn wyneb cyfarwydd ar achlysuron cyhoeddus a chymdeithasol.  Ym 1743 priododd Patrick Delany, clerigwr o'r Iwerddon.  Bu farw ym 1788 yng Nghastell Windsor.  Yn ystod ei bywyd ysgrifennodd Mary  nifer fawr o lythyrau at ei ffrinidiau a'i theulu.  Cafodd y llythyrau hyn eu cyhoeddi a'u golygu mewn chwe chyfrol ym 1861-2 gan ei gor-nith Arglwyddes Llanofer (Augusta Hall, neé Waddington) (1802-96).
Llythyr oddi wrth Mary Granville at ei chwaer ar achlysur coroni Siôr II, 11 Hydref 1727 [tudalen 1 o 4]
  • Het a gynlluniwyd ac a wnaed gan Dai Rees, yr hetiwr a'r cynllunydd a aned ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Cafodd yr het ei gwneud ar gyfer ei gasgliad Gwanwyn 2001.  Mae'n cynnwys ffan ddwbl o blu twrci wedi eu lliwio'n binc a'u haddurno gyda llewyrch polyester; mae'r cyfan wedi ei osod ar ddarn o sbwng sy'n eistedd ar y pen (yn y blaen), gyda band elastig i ddal yr het yn ei lle.  Lled 37 cm.
Het a gynlluniwyd gan y hetiwr Dai Rees, 2001
  • Patrwm papur ar gyfer ffrog cwmni Weldons, c. 1940-5.  Mae'r ffrog las, gyda'r gwahanol ategolion (het, menig, bag llaw, esgidiau) oll yn dangos effaith cyfyngiadau'r rhyfel - ni fyddai angen llawer o ddefnydd i wneud y ffrog fer hon.
Patrwm papur ar gyfer ffrog cwmni Weldons, c. 1940-5
  • Pr o esgidiau merched, 1700-45 o Talardd, Maesycrugiau.  Mae'r esgidiau yn union yr un fath ac wedi eu gwneud o felfed gyda gwaith brocd, mae ganddynt sodlau llydan crwm a blaenau pigog.  Mae'r bwcl yn cau ar draws y blaen ac mae rhuban gwyrdd tywyll yn rhedeg ar hyd ymyl yr esgid.  Mesuriadau: hyd 20.5 cm; uchder y sawdl 6.5cm.
Pr o esgidiau merched, 1700-45
  • Llun ffasiynau, Socit des Journeaux de Modes Runis, d.d. 1880au; yn dangos gwisg merch gyda manylion y plethau a'r crychion, a dillad plant (dwy ferch a bachgen) wedi eu cynllunio gan Guerlain, Rue de la Paix, Paris.
Llun ffasiynau: Socit des Journeaux de Modes Runis, 1880au