Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Gwisg ac addurniadau personol » Ffrogiau

Canlyniadau 1 i 6 allan o 10

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

  • Mae 'Falling Stars' wedi'i gwneud o fiscos wedi'i droelli ag edau lwrecs aur, wedi'i addurno â disgiau ffoiledig aur 18 carat wedi'u torri â llaw ynghyd â secwinau.  Fe'i cynhyrchwyd ar gyfer Casgliad Gwanwyn / Haf 2000 ac mae Kate Moss, Kylie Minogue a Joely Richardson wedi'i gwisgo.
'Falling Stars', gan Julien Macdonald
  • Ffrog bersli wlân print mewn patrwm bele'r coed (arlliwiau hufen, coch, gwyrdd a glas).  Gwnaed y ffrog hon o siôl bersli Fictoraidd wedi'i hailgylchu ym 1933 gan Miss Norma Adelaide Birch Williams.  Roedd y siôl yn perthyn i'w hen fodryb, Mrs Adelaide Davies Yeo o Gasnewydd, a fu farw ym 1914 yn 83 mlwydd oed.
Ffrog a wnaed ym 1933 o siôl bersli Fictoraidd wedi'i hailgylchu [delwedd 1 o 2]
Ffrog flodeuog werdd, canol yr 1820au
  • Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â gwisg merched o haenau is cymdeithas yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae'r llawysgrif hon yn bwrw rhywfaint o oleuni ar y pwnc.

Rhestr yw'r llawysgrif o daliadau gan Ieuan ap Rees ap David o Wicwer, Sir Ddinbych, i'w forwyn 'Ellin vawr'. Gwnaed llawer o'r taliadau iddi nid mewn arian ond mewn rhoddion o ddillad neu frethyn i wneud dillad. Cofnodir y prisiau a dalwyd gan Ieuan am y dillad a'r brethyn yn y rhestr. Mae'r rhestr fwyaf gynhwysfawr yn Gymraeg, ond rhestrir rhai o'r eitemau sydd ar y rhestr hon hefyd mewn rhestr fyrrach Saesneg.

Yn ôl nodyn ar ddechrau'r rhestr mae'n gopi o'r rhestr wreiddiol a wnaed oherwydd achos llys lle roedd Ieuan ap Rees ap David yn ddiffynnydd ac Elin a George Gruff[ydd] ap D[avid] ap M[ered]edd yn achwynwyr. Ymddengys felly i'r rhestrau gael eu copïo wedi i Elin ymadael â'i swydd a phriodi.

Roedd Ieuan ap Rees ap David yn aelod o deulu bonheddig y Lloydiaid a bu ei fab, John Lloyd, yn gofiadur Dinbych. Bu farw Ieuan rywbryd tua 1600-1610.

Oherwydd nifer yr eitemau o ddillad ar y rhestr mae'n debyg iddi gael ei llunio dros nifer o flynyddoedd. Ymddengys fod Ieuan yn gyflogwr eithaf hael - gwnaed rhai eitemau o'i frethyn ei hun ac ni chodwyd tâl am y rhain. Mae'n ddiddorol nodi prisiau gwahanol eitemau, fel 3 ceiniog am bâr o fenig ac 8 swllt am het ffelt o Gaer. Gwnaed ffedogau a smociau o liain fel arfer ond jercinnau a pheisiau o frethyn neu wlanen. Yn ogystal â'r eitemau iwtilitaraidd fel peisiau a smociau, cyflenwyd Elin ag eitemau mwy addurniadol fel coleri a rhuban i ddal ei gwallt.

[Darllen pellach: Megan Ellis,' Dress and dress materials for a serving maid, circa 1600', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyfrol 1 (1939). Aberystwyth : Llyfrgell Genedlaethol Cymru]
Taliadau i forwyn, tua'r flwyddyn 1600, tudalen 1 o 6
  • Manylyn o ddarn o taffeta sidan gwyn gyda brocêd sidan lliwgar ac arian, o wisg a phais o Barc Tredegar, Casnewydd, c. 1745-7.  Mae'r patrwm yn debyg iawn i'r math o batrymau a gafodd eu cynhyrchu gan Anna Maria Garthwaite yn y 1740au.
Manylun o frocêd ar wisg a phais, c. 1745-7
  • Patrwm papur ar gyfer ffrog cwmni Weldons, c. 1940-5.  Mae'r ffrog las, gyda'r gwahanol ategolion (het, menig, bag llaw, esgidiau) oll yn dangos effaith cyfyngiadau'r rhyfel - ni fyddai angen llawer o ddefnydd i wneud y ffrog fer hon.
Patrwm papur ar gyfer ffrog cwmni Weldons, c. 1940-5