Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Bywyd y Cartref » Gwisg ac addurniadau personol » Penwisgoedd

Canlyniadau 1 i 6 allan o 11

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

  • Roedd gwneuthurwyr capiau yn gweithio ym Mynwy mor gynnar â 1449, ond yn ystod Oes y Tuduriad gwelwyd y diwydiant yn ffynnu yn y dref.  Mae'r cyfeiriad cynharaf at yr enw 'Cap Mynwy' i'w ganfod mewn llythyr sy'n dyddio o 1576.  Erbyn y cyfnod hwn roedd y diwydiant ar ei anterth ym Mynwy, ond yn sgil deddfwriaeth newydd a oedd yn noddi'r diwydiant drwy gydol yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd nifer o drefi eraill hefyd wedi dechrau cynhyrchu capiau gwau.  Roedd capiau Mynwy yn cael eu hystyried yn rhan hanfodol o wisg milwyr a morwyr yr ail ganrif ar bymtheg, er nad oeddynt bellach yn cael eu cynhyrchu ym Mynwy.

Daeth capiau Mynwy mor gyfarwydd a chyffredin fel iddynt gael eu cymryd yn ganiataol.  Roedd pawb yn gwybod yn union beth oedd 'cap Mynwy', a phrin felly yw'r disgrifiadau ysgrifenedig o'r cap.  Ar sail y cyfeiriadau prin hynny, gwyddys bod y capiau wedi cael eu gwau a'u bod yn grwn, o liw brown, a gyda 'botwm' ar y corun.  

Credir bod yr het a ddangosir yma yn 'gap Mynwy' gwreiddiol, yr unig enghraifft sydd wedi goroesi, sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg.

Ffynhonnell: 
Paneli arddangos, Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson.
Cap Mynwy, 16eg ganrif
  • Mae'r ffotograff hwn yn dangos Mrs Annie Watkin, Muriau, Cricieth, yn gwisgo dillad a phenwisg trawiadol oes Victoria.
Mrs Annie Watkin, Muriau, Cricieth, 19eg ganrif
  • Ffotograff o aelodau capel Salem, Pwllheli, yn ystod trip cymdeithasol.  Maent oll wedi gwisgo eu dillad gorau ac mae nifer o'r merched yn gwisgo hetiau mawrion addurnedig.
Aelodau capel Salem, Pwllheli, ar drip (d.d.)
  • Het Gymreig uchel gydag ymyl llydan o amgylch gwaelod y corun a chwilt piws ar hanner isaf y tu fewn lle mae dau rhuban du ynghlwm ar gyfer clymu o amgylch yr ên.  Mae'r label yn darllen 'Carver and Co. Extra Best'.  Mae'r het yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif ac fe'i gwnaed yn ôl pob tebyg gan un o brif wneuthurwyr hetiau o'r fath yn Llundain.
Gwisg Gymreig: het i ferched, 19eg ganrif [delwedd 1 o 2]
  • Het Gymreig ag ymyl llydan o ail hanner y 19eg ganrif.  Perchennog gwreiddiol yr het hon oedd Mrs Edwards o Lanilar (ganed tua'r flwyddyn 1850).  Roedd hetiau o'r fath yn ffasiynol iawn pan oedd yn ferch ifanc ond daethant yn fwyfwy amhoblogaidd wrth i'r ganrif fynd yn ei blaen.  Erbyn diwedd y 19eg ganrif roeddynt yn hynodbethau a fyddai'n cael eu gwisgo'n bennaf ar Ddydd Gŵyl Dewi ac achlysuron gwladgarol eraill.  Serch hynny, roedd rhai gwragedd oedrannus yn parhau i ddefnyddio hetiau eu hieuenctid ac yn parhau i'w gwisgo ar achlysuron arbennig, fel rhan o'u gwisg gorau.  Fel gwraig oedrannus, fe ymddengys bod Mrs Edwards wedi gwisgo ei het Gymreig i fynd ar drip i'r dref leol (Aberystwyth yn ôl pob tebyg) gyda ei merch ar ddiwrnod allan.  Yn ôl y dystiolaeth anecdotaidd sy'n goroesi, tra oeddent yn y dref cawsant eu cyfarch gan griw o fechgyn lleol a ofynnodd a oeddynt yn mynd i'r rasys.  Gofynnodd un lle'r oedd y rasys yn cael eu cynnal ac fe atebodd un arall mewn hwyl 'Ar ymyl het yr hen wraig.'  Roedd Mrs Edwards wedi'i siomi cymaint fel yr aeth ar unwaith i siop leol i brynu bonet mwy ffasiynol.  Fe ymddengys iddi benderfynu yn y fan a'r lle i beidio â gwisgo'r het fyth eto.  Cyflwynwyd yr het i Amgueddfa Ceredigion nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach gan aelod o'i theulu. 

Disgrifiad yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Amgueddfa Ceredigion.
Gwisg Gymreig: het i ferched, 19eg ganrif
  • Het Gymreig ag ymyl llydan sy'n dyddio o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Gwisg Gymreig: het i ferched, 19eg ganrif