Thema

Chwaraeon a hamdden yng Nghymru

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.



Gallwch chi gyfrannu hefyd!

Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.

Flickr logo

Athletau

Hafan » Themâu » Athletau

Athletau

Mae cystadlaethau cryfder ac ystwythder wedi cael eu cynnal yng Nghymru ers canrifoedd, ond daeth athletau amatur o ysgolion bonedd a cholegau yn Lloegr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ffurfiwyd clwb athletau cyntaf Cymru yng Nghasnewydd ym 1877 ac arweiniodd poblogrwydd cynyddol athletau ffurfiol erbyn troad yr 20fed ganrif at gynnal y pencampwriaethau athletau cyntaf yng Nghymru yn Rodney Parade ym Mhontypridd ym 1907.

Cynhaliwyd y Pencampwriaethau Ysgolion cyntaf yng Nghymru ym 1947 a ffurfiwyd Cymdeithas Athletau Amatur ym 1948. Cynyddodd diddordeb mewn athletau pan gynhaliwyd Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd ym 1958 a cynhaliwyd Gemau Cymru'r flwyddyn wedyn.

Mae athletwyr nodedig o Gymru'n cynnwys y neidiwr hir Lynn Davies, y codwr pwysau David Morgan, y para-olympiad Tanni Grey-Thompson, y rhedwr Steve Jones a'r neidiwr clwydi Colin Jackson.


 

Eitemau ar wefan Casglu'r Tlysau:

 

GTJ09321.jpgGTJ11747.jpgGTJ10685.jpgGTJ09330.jpgGTJ11748.jpgGTJ09331.jpgGTJ12232.jpgGTJ10670.jpg





GTJ09339.jpgGTJ12233.jpgGTJ12234.jpgGTJ12235.jpgGTJ30325.jpgGTJ30353.jpgGTJ09336.jpgGTJ69051.jpg





GTJ69059.jpgGTJ09341.jpgGTJ69076.jpgGTJ69081.jpg






Ffynhonnell
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig
(Caerdydd, 2008)

 

Ysgrifau cysylltiedig

 

Rasys troed

 

Gemau'r Gymanwlad