Thema

Chwaraeon a hamdden yng Nghymru

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.



Gallwch chi gyfrannu hefyd!

Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.

Flickr logo

Cerdded a chrwydro

Hafan » Themâu » Cerdded a chrwydro

Roedd bryniau a mynyddoedd Cymru ar un adeg yn amddiffynfeydd rhag byddinoedd goresgynnol. Fodd bynnag, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuwyd gweld y tirweddau geirw hyn yn nodweddion mwyaf deniadol y wlad.

Efallai'r enwocaf o'r holl deithlyfrau am Gymru yw Wild Wales (1862) gan George Borrow, ac ynddo mae'n adrodd hanes ei daith gerdded drwy'r wlad ym 1854. Hybodd y llyfr hwn ac arolygon eraill o dirwedd Cymru dwristiaeth, a thrwy gydol yr ugeinfed ganrif datblygodd Cymru'n gyrchfan cerdded poblogaidd ac fe gynhyrchodd buddiannau economaidd sylweddol mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol.

Daeth y rheilffyrdd, a cheir yn ddiweddarach, a gwneud ardaloedd cefn gwlad yn fwy hygyrch. Mae llwybrau arfordirol a llwybrau cerdded ledled y wlad wedi ei wneud yn bosibl i ymwelwyr ddarganfod treftadaeth a harddwch cefn gwlad Cymru.

Delweddau ar wefan Casglu'r Tlysau:

 GTJ17810.jpgGTJ25748.jpg