Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Cerddoriaeth werin
Hafan » Themâu » Cerddoriaeth werinCerddoriaeth werin
Mae gan Gymru draddodiad cyfoethog o gerddoriaeth werin sydd wedi parhau ers canrifoedd. Mae Calennig a Phlygain, er enghraifft, yn cael eu canu amser y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Roedd caneuon serch yn arbennig o boblogaidd, a hefyd baledau a oedd yn adrodd hanesion am ddamweiniau neu drasiedďau, ac roeddent yn aml yn cael eu canu i gyfeiliant y delyn. Nid oeddent yn ganeuon hollol Gymraeg chwaith, gan fod casgliad sylweddol o faledau yn Saesneg o rannau o Gymru, fel Sir Benfo a Bro Gŵyr, ardaloedd sydd wedi'u Seisnigo ers amser maith.
Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae canu gwerin wedi cael lle ar lwyfannau eisteddfodau ledled Cymru, ac roedd adfywiad yn y 1970au. Mae math unigryw o gerddoriaeth yng Nghymru o'r enw Cerdd Dant, lle mae barddoniaeth yn cael ei chanu i alaw sy'n wahanol i rythm a chord cyfeiliant y delyn.
Eitemau ar wefan Casglu'r Tlysau:
(copy 2)
Ffynonellau
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, 2008)
Cymdeithas Cerdd Dant Cymru