Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Chwaraeon a hamdden yn y Gymru gynddiwydiannol
Hafan » Themâu » Chwaraeon a hamdden yn y Gymru gynddiwydiannolChwaraeon a hamdden yn y Gymru gynddiwydiannol
Cyn y chwyldro diwydiannol, roedd chwaraeon a hamdden yng Nghymru gan fwyaf yn ddigwyddiadau cymunedol. Roedd eu gwreiddiau mewn arferion lleol, ac roedd gweithgareddau hamdden yn cael eu llunio gan natur unig a digyfnewid cymdeithas yr adeg honno.
Roedd gemau'n aml yn rhan o'r miri ar ddiwrnodau'r Saint (er gallent barhau am wythnos), a elwid 'Gwylmabsantau', ac ar ddiwrnodau arwyddocaol eraill, fel Nadolig neu ddydd Mawrth Ynyd.
Roedd y gemau a chwaraewyd a'u rheolau'n amrywio o blwyf i blwyf, ac mae llawer ohonynt wedi diflannu heb gael eu cofnodi. Er hynny, mae rhai disgrifiadau o 'bêl-droed y werin' wedi goroesi. Maent yn cynnwys gemau poblogaidd fel 'cnapan' a'r 'bêl ddu', sy'n cael eu hystyried gan rai fel rhaglfaenwyr pêl-droed, a hefyd math o hoci o'r enw 'bando'.
Roedd y gemau hyn yn aml yn gas ac afreolus, ac yn dirywio erbyn dechrau'r 19eg ganrif, yn bennaf oherwydd y tensiwn rhwng crefydd a hamdden yng Nghymru. Erbyn diwedd y ganrif, daeth yr oes ddiwydiannol i'w gweld mewn golau mwy beirniadol a daeth yr arferion hyn yn rhan o hiraeth cyffredin am Gymru wledig wedi'i ramanteiddio. Gwelodd ail hanner y 19eg ganrif fudiad cenedlaethol yn datblygu yng Nghymru. Er fod rhai unigolion fel Michael D. Jones ac Emrys ap Iwan yn galw am hunan-lywodraeth genedlaethol, roedd canolbwynt y mudiad yn ddiwylliannol yn hytrach na gwleidyddol. Un o'i gyflawniadau mwyaf parhaol oedd yr Eisteddfod Genedlaethol a sefydlwyd yn y 1860au.
Beth ddigwyddodd nesaf?
Effaith y Chwyldro Diwydiannol
Ffynonell
Martin Johnes, A History of Sport in Wales (Caerdydd, 2005)
Ysgrifau Cysylltiedig
Hamdden a chwaraeon yng Nghymru wledig
Hela llwynogod
Pysgota
Rasys troed
