Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Diwylliant poblogaidd
Hafan » Themâu » Diwylliant poblogaiddDiwylliant poblogaidd
Erbyn canol yr ugeinfed ganrif, roedd diwylliannau o'r tu allan i Gymru'n dod yn bresenoldeb mwy ym mywyd bob dydd pobl yng Nghymru oherwydd datblygiadau mewn sinema a darlledu.
Roedd dangos ffilmiau o Loegr ac America ar sgriniau sinema a phoblogrwydd radio wedi ychwanegu at y dylanwad Eingl-Americanaidd ledled Cymru. Daeth y dylanwad hwn yn gryfach wrth i setiau teledu ddod yn eitemau cyffredin mewn cartrefi ledled y wlad yn ystod y 1950au a'r 1960au.
Daeth roc a rôl yn boblogaidd yn y cyfnod hwn, a diwylliant ieuenctid a oedd yn wahanol iawn i un y genhedlaeth flaenorol.
Gall diwylliant roc a rôl gael ei olrhain i gân Bill Haley and the Comets 'Rock around the clock', a saethodd i fyny'r siartiau wedi iddi ymddangos ar ddechrau'r ffilm o 1955 'Blackboard Jungle'. Perfformiodd Bill Haley yng Nghaerdydd fel rhan o'i daith Ewropeaidd ym 1957, gan roi prifddinas Cymru ar fap roc a rôl.
Nid yw Cymru wedi bod yn oddefol wrth iddi amsugno diwylliant pop Eingl-Americanaidd. Dros y blynyddoedd, mae llawer o gerddorion ac actorion o Gymru wedi dod yn enwog ar lwyfan a sgrîn, gan gynnwys Tom Jones, Richard Burton, Bonnie Tyler, Ioan Gruffudd, Manic Street Preachers, Mathew Rhys, Catatonia, The Alarm, 'The Edge' o U2, John Cale, Rhys Ifans, Super Furry Animals, Shakin Stevens, Catherine Zeta Jones, Syr Anthony Hopkins a'r Stereophonics.
Ffynhonnell
Peter Stead, ‘Popular Culture’ yn T. Herbert & G.E. Jones (gol.) Post-war Wales (Caerdydd, 1994))
