Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Eisteddfod
Hafan » Themâu » EisteddfodEisteddfod
Yr Eisteddfod yw prif ddigwyddiad diwylliannol Cymru a'r Cymry. Mae gan yr Eisteddfod fodern ei gwreiddiau yn Oes Victoria ond mae'r mae'r traddodiadau barddol a barddonol yn ganrifoedd oed; o'r dyddiau pan fyddai beirdd yn cystadlu am eu lle yn llysoedd tywysogion Cymru. Yn aml byddai'r enillydd yn cael ei wobrwyo â chadair ac mae'r traddodiad hwn yn parhau hyd heddiw. Honnir y cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf ym 1176 gan Arglwydd Rhys yn Aberteifi.
Efallai'r nodwedd fwyaf hynod yr Eisteddfod yw natur seremonďol Gorsedd y Beirdd. Mae'n gasgliad o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, a cafodd ei ddyfeisio gan Iolo Morganwg yn y 18fed ganrif; cynhaliwyd seremoni gyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn Primrose Hill yn Llundain ym 1792. Credai Morganwg y dylai'r Cymry bwysleisio elfennau Celtaidd eu diwylliant a'u traddodiadau a cheisiodd wneud hyn drwy gyfrwng ei Orsedd. Gellir ystyried hyn yn enghraifft o'r ymdrechion ymwybodol gan rai yn y 19eg ganrif i ddyfeisio traddodiad Cymreig; gellir ystyried gwisgoedd Cymreig Arglwyddes Llanofer yn yr un modd.
Gwnaed y cysylltiad ffurfiol cyntaf rhwng yr Eisteddfod a'r Orsedd ym 1819 yng Nghaerfyrddin ac ers i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei geni ym 1860/61 mae'r cysylltiad agos wedi parhau. Yr Orsedd sy'n gyfrifol am brif seremonďau'r wythnos i anrhydeddu cyflawniadau beirdd Cymru ac awduron yng nghystadlaethau'r gadair, y goron a'r fedal ryddiaith.
Ym 1880, ffurfiwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a chymryd cyfrifoldeb dros lwyfannu gŵyl flynyddol i'w chynnal yng Ngogledd a De Cymru am yn ail. Ni lwyddwyd gwneud hyn ym 1914 a 1940 yn unig.
Ffynonellau
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, (Caerdydd, 2008)
Gwefan Swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol