Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Emynau a'r Gymanfa
Hafan » Themâu » Emynau a'r GymanfaEmynau a'r Gymanfa
Gellir olrhain y traddodiad o ysgrifennu emynau i'w canu gan gynulleidfaoedd yng Nghymru i hanner cyntaf y 17eg ganrif a gwaith Edmwnd Prys. Tyfodd poblogrwydd ysgrifennu emynau yn ail hanner y 18fed ganrif, pan ysgrifennodd awduron nodedig fel William Williams, Pantycelyn ac Ann Griffiths, Dolanog am eu profiadau ysbrydol.
Daeth y Gymanfa Ganu i'r amlwg yng nghanol y 19eg ganrif, lle byddai Anghydffurfwyr yn cyfarfod i ganu emynau. Roedd yr emynau fel arfer yn cael eu canu gan bedair adran mewn cytgord. Daeth canu emynau'n fwy poblogaidd diolch i'r sol-ffa, a oedd yn gwneud darllen cerddoriaeth ar yr olwg gyntaf yn haws. Roedd y Gymanfa'n achlysur ffurfiol, ac fel arfer roedd cyfres o sesiynau ymarfer ymlaen llaw er mwyn sicrhau y byddai'r canu o safon uchel.
Ffynhonnell
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, 2008)