Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Golff
Hafan » Themâu » GolffGolff
Mae'r cyfeiriad cyntaf at chwarae golff yn sôn am gêm yng Nghaeredin ym 1456, ond ni ddatblygwyd meysydd golff maint llawn yng Nghymru tan y 1880au. Fe'u lleolwyd gan amlaf wrth yr arfordir, ble roedd y gwair yn fwyaf addas. Agorwyd maes yn Ninbych-y-pysgod ym 1880, yn Y Borth ger Aberystwyth ym 1885, ac yng Nghonwy ym 1890.
Er bod golff wedi ei weld yn gêm elitaidd erioed, ac mae llawer o'r clybiau yng Nghymru ar agor i aelodau'n unig, roedd y gêm yn tyfu'n gryn boblogaidd yn yr 20fed ganrif.
Ym 1957, Dai Rees o Ffontygari, ger y Barri, oedd capten tîm Ewrop pan gafodd fuddugoliaeth yng nhytadleuaeth y Cwpan Ryder am y tro cyntaf am 22 o flynyddoedd. Cyn diwedd y flwyddyn, ef oedd y Cymro cyntaf i'w enwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon BBC y Flwyddyn.
Cadarnhaodd Ian Woosnam a David Llewellyn safle Cymru ar y map golff pan enillon nhw Gwpan y Byd ym 1987. Enillwyd Cwpan y Byd eto gan y Cymry Stephen Dodd a Bradley Dredge yn 2005, ac Ian Woosnam oedd yn gapten pan oedd Ewrop yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cwpan Ryder yn 2006.
Eitemau ar wefan Casglu'r Tlysau:
Ffynonellau
M. Johnes, A History of Sport in Wales (Caerdydd, 2005)
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, 2008)