Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Nofio
Hafan » Themâu » NofioNofio
Daeth nofio cystadleuol yn fwyfwy poblogaidd yng Nghymru pan agorwyd pyllau nofio dan do ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adlewyrchwyd y datblygiad hwn yn ffurfiant Cymdeithas Nofio Amatur Cymru a threfnu'r pencampwriaethau nofio cyntaf yng Nghymru.
Cyn hir roedd gan Cymru nofwyr gyda'r gorau yn y byd fel Paul Radmilovic, Irene Steer a Valerie Davies, oll o Gaerdydd.
Adeiladwyd pwll nofio 50m yng Nghaerdydd, Pwll y Gymanwlad, mewn pryd i grosawu Gemau'r Gymanwlad ym 1958. Roedd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer nofio cystadleuol yng Nghymru tan cafodd ei ddymchwel ym 1997. Fe'i ddisodlwyd gan y Ganolfan Nofio Genedlaethol yn Abertawe, a agorodd yn 2003.
Mae nofwyr o Gymru wedi parhau i ragori yn y 21ain ganrif, yn enwedig David Davies o Gaerdydd a David Roberts, y paraolympiad o Bontypridd.
Eitemau ar wefan Casglu'r Tlysau:
Ffynhonnell
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, 2008)
