Thema

Chwaraeon a hamdden yng Nghymru

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.



Gallwch chi gyfrannu hefyd!

Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.

Flickr logo

Paffio

Hafan » Themâu » Paffio

Paffio

Mae gan rhai o gymunedau diwydiannol de Cymru draddodiad hir o baffio sy'n ymestyn yn ôl i'w dechrau cyntaf. Hyd yn oed cyn hynny, roedd gwylio paffio â dyrnau noeth yn boblogaidd yn y Gymru gynddiwydiannol, yn aml yn mynd gydag yfed, hapchwarae ac afreolusrwydd cyffredinol. 

Daeth ychydig o drefn ym 1867 pan ysgrifennodd y Cymro J.G. Chambers rheolau Queensberry, ond anghefnogwyd y gamp gan yr awdurdodau hyd ymhell i mewn i'r ugeinfed ganrif.

Yn ystod yr 20fed ganrif, mae Cymru wedi cynhyrchu sawl pencampwr paffio nodedig, gan gynnwys 'Freddie Welsh', y Brodyr Moody, Howard Winstone, Jim Driscoll, Jimmy Wilde, Dai Dower, Dai Davies, Jack Peterson, Tommy Farr a Johnny Basham. Nid oedd y dynion hyn yn unigolion dawnus yn unig ond daethant hefyd yn nerthoedd uno wrth i'w cymunedau eu cefnogi.

Mae'r traddodiad hir o baffio yn ne Cymru wedi cario ymlaen i'r ganrif hon gan baffwyr fel Enzo Maccarinelli o Abertawe a Joe Calzaghi o Drecelyn. 

Ffynonellau
K.O. Morgan, Rebirth of a Nation: Wales 1880-1980 (Rhydychen, 1982)
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, 2008)

Eitemau ar wefan Casglu'r Tlysau:

GTJ09327.jpgGTJ09328.jpgGTJ09329.jpgGTJ01143.jpgGTJ02060.jpgGTJ02061.jpgGTJ02062.jpgGTJ03067.jpgGTJ18257.jpg






GTJ13100.jpgGTJ18762.jpgGTJ69050.jpgGTJ69061.jpgGTJ69091.jpgGTJ73006.jpgGTJ67285.jpg

Ysgrifau cysylltiedig

 

 

Effaith y chwyldro diwydiannol

 

Gemau'r Gymanwlad