Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Pêl-fasged a phêl-rwyd
Hafan » Themâu » Pêl-fasged a phêl-rwydPêl-fasged a phêl-rwyd
Mae gwreiddiau pêl-fasged yn Unol Daleithiau America ar ddiwedd y 19eg ganrif. Dyfeisiwyd y gêm ym 1891 gan Dr James Naismith o Ganada, hyfforddwr yn ysgol hyfforddi'r YMCA yn Springfield, Massachausetts. Dros y ganrif nesaf, datblygodd pêl-fasged yn sbort torfol a oedd yn cael ei ddarlledu i gartrefi ledled y byd.
Mae pêl-rwyd yn tarddu o bêl-fasged ac fel arfer yn cael ei hystyried yn gêm i ferched. Newidiwyd y rheolau'n bennaf oherwydd roedd dillad merched ar droad yr 20fed ganrif yn cyfyngu symudiadau.
Mae pêl-rwyd wedi cael ei chwarae gan ferched mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru ers blynyddoedd. Er hynny, yn ddiweddar mae pêl-fasged i ferched wedi dod yn fwy poblogaidd. Un o'r rhesymau am boblogrwydd y gêm yw llwyddiant y Rhondda Rebels, tîm pêl-fasged merched yn Nhylorstown.
Aeth y Rebels i mewn i'r Gynghrair Bêl-fasged Genedlaethol fel tîm Treorci ym 1989 a cawsant eu dyrchafu i'r Adran Gyntaf ar ddiwedd y tymor. Yn 2000 roeddent wedi ennill Cwpan Merched Cadet a Chynghrair a Chwpan Merched Cenedlaethol eu dau. Parhaodd eu llwyddiant y tymor a ddilynodd, wrth iddynt ennill Cwpan Merched Cenedlaethol, eu teitl Cynghrair cyntaf a'r Bencampwriaeth. Ennillodd y Rebels Gwpan y Merched yn 2003 a 2004, y Gynghrair yn 2004 a'r Bencampwriaeth yn 2005.
Roedd y clwb mor llwyddiannus cafodd ei noddi gan Coca Cola yn 2005.
Ffynhonnell:
Gwefan Swyddogol y Rhondda Rebels