Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Rasio ceir a beiciau modur
Hafan » Themâu » Rasio ceir a beiciau modurRasio ceir a beiciau modur
Mae rasio ceir a beiciau modur wedi'u seilio ar yr un egwyddorion â rasio ceffylau, a dechreuodd yn wreiddiol ar ddechrau'r 20fed ganrif. Treialon amser beiciau modur yr Undeb Moduro ym Mhentywyn ym 1909 oedd y cyntaf i gael eu cynnal yng Nghymru. Tan 1925, gellid cynnal treialon amser ar ffyrdd cyhoeddus ond roeddent hefyd yn cael eu cynnal mewn caeau dan reoliadau'r Undeb Beicio Modur. O ddechrau'r 1920au, cynhaliwyd y Treialon Amser Chwe Diwrnod yn Llandrindod a'r TT Cymreig blynyddol ym Mhentywyn.
Mae coedwigoedd canolbarth Cymru yn arbennig o addas ar gyfer ralďau ceir ac maent yn cael eu defnyddio gan Bencampwriaethau Network Q. Mae Cymru wedi cynhyrchu dau o'r gyrwyr rali gorau, Gwyndaf Evans a David Llewellyn.
Nid oes cylchffyrdd Grand Prix yng Nghymru ond roedd un gyrrwr Fformiwla Un o Gymru yn ystod y 1970au. Roedd Tom Price o Ruthun yn rasio i dimau rasio Fformiwla Un Token a Shadow rhwng 1974 a 1977. Ef oedd y Cymro cyntaf i ddechrau ras Grand Prix Fformiwla Un yn y safle cyntaf. Cafodd ei ladd mewn damwain drasig yn Grand Prix De Affrica ym 1977.
Eitemau ar wefan Casglu'r Tlysau:
Ffynonellau
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, 2008)