Thema

Chwaraeon a hamdden yng Nghymru

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.



Gallwch chi gyfrannu hefyd!

Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.

Flickr logo

Rasio colomennod

Hafan » Themâu » Rasio colomennod

Rasio colomennod

Pigeon fanciers outside the Globe Hotel, Graig, Pontypridd, c. 1900

Cychwynnodd rasio colomennod yng Ngwlad Belg yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'n sbort sy'n golygu rhyddhau colomennod rasio arbennig mewn lleoliad sydd wedi'i benderfynu ymlaen llaw sydd wedyn yn dychwelyd i'w cartrefi. Rhaid mesur yr amser mae'n cymryd i'r colomennod i deithio'r pellter penodol a'u cymharu i weld pa aderyn oedd y cyflymaf. 

Gall pellteroedd rasio fod rhwng 100 cilometr â 1000 cilometr a gall y colomennod rasio o chwe mis oed ymlaen.

Roedd rhagflaenyddion colomennod rasio heddiw'n cael eu defnyddio i gario negeseuon, yn enwedig negeseuon milwrol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd bron chwarter miliwn o adar gan y lluoedd arfog.

Roedd cadw colomennod yn arbennig o boblogaidd ymysg glowyr yng Nghymru. Cedwid y colomennod yn yr iard gefn ac roedd eu perchnogion yn falch iawn o'u cadw, gan ddefnyddio dulliau bwydo a hyfforddi cyfrinachol wedi'u cynllunio i roi mantais i'w adar mewn rasys.

Mae rasio colomennod fel sbort wedi bod ar drai yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Delweddau ar wefan Casglu'r Tlysau:

GTJ31637.jpgGTJ69075.jpg