Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Rygbi
Hafan » Themâu » RygbiRygbi'r Undeb
Mae rygbi'n cael ei weld fel symbol o hunaniaeth y Cymry, er fod hyn yn ffenomen yr 20fed ganrif. Er bod ymdrechion wedi bod i ddweud fod y gêm wledig cnapan yn ffurf gynnar o rygbi, mae'n cael ei dderbyn yn gyffredinol y daeth rygbi o Loegr a daeth i Gymru drwy'r ysgolion a'r colegau preifat yng nghanol y 19eg ganrif.
Ffurfiodd dynion a oedd yn gysylltiedig ag ysgolion a cholegau fel Llanymddyfri a Llanbedr y clybiau rygbi cyntaf yng Nghymru. Ym 1871 Castell-nedd ddaeth y clwb cyntaf i gael ei ffurfio yng Nghymru, ac yna Llanelli ym 1872, Abertawe ym 1874, Casnewydd ym 1875 a Chaerdydd ym 1876.
Chwaraeodd tîm rygbi cenedlaethol Cymru ei gêm gyntaf yn erbyn Lloegr ar 19 Chwefror 1881 a cholli 30-0 (er mae'n werth nodi roedd Cymru'n chwarae gyda dau chwaraewr yn llai na Lloegr).
Er gwaethaf y cychwyn siomedig, tyfodd poblogrwydd rygbi yng Nghymru yn ystod y 1880au ac enillodd y tîm cenedlaethol, o dan gapteiniaeth Arthur Joseph Gould, y Goron Driphlyg am y tro cyntaf ym 1893. Dyma pryd defnyddiodd Cymru drefn pedwar tri chwarter newydd, datblygiad newydd a oedd yn sail i oes aur gyntaf rygbi yng Nghymru rhwng 1900 a 1911.
Ffynonellau
K.O. Morgan, Rebirth of a Nation: Wales 1880-1982 (Rhydychen, 1998)
Gareth Williams, 1905 and all that (Llandysul, 1991)
Martin Johnes, A History of Sport in Wales (Caerdydd, 2005)




