Thema

Chwaraeon a hamdden yng Nghymru

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.



Gallwch chi gyfrannu hefyd!

Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.

Flickr logo

Sgowtiaid a Geidiaid

Hafan » Themâu » Sgowtiaid a Geidiaid

Sgowtiaid a Geidiaid

Ffurfiwyd sefydliad y Sgowtiaid gan Robert Baden-Powell ym 1907 i addysgu pobl ifanc ac i gefnogi'u datblygiad meddyliol, corfforol ac ysbrydol. Roedd y mudiad yn annog aelodau i fod yn weithgar a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel gwersylla, hwylio a cherdded. Roedd y mudiad yn boblogaidd yng Nghymru a gellid dod o hyd i Neuaddau Sgowtiaid yn y rhan fwyaf o drefi.

Nid oedd merched yn cael eu cynnwys yn y Sgowtiaid gwreiddiol, ond roedd cymaint o ddiddordeb, er enghraifft gan ferched a aeth i'r rali gyntaf ym 1909, fel y sefydlwyd mudiad y Geidiaid ym 1910. Er yr amheuaeth a'r feirniadaeth gyffredin, tyfodd poblogrwydd ac aelodaeth y mudiad.

Roedd pwyslais ar swydd wisgoedd, militariaeth a'r Ymerodraeth Brydeinig yn nodweddion y mudiad, ac yng Nghymru cafodd y Sgowtiaid gystadleuaeth oddi wrth Urdd Gobaith Cymru, a oedd yn ceisio gwrthwynebu'r fath ideolegau yn y diwylliant Cymreig.

 

Eitemau ar wefan Casglu'r Tlysau:

GTJ18095.jpgGTJ18422.jpgGTJ18428.jpgGTJ18429.jpgGTJ10665.jpgGTJ23077.jpgGTJ23079.jpgGTJ70499.jpg





GTJ11765.jpgGTJ10979.jpgGTJ10910.jpg

 

 

 

 

Ffynhonnell
Gwefan Swyddogol y Sgowtiaid

 

Ysgrifau cysylltiedig

  

Urdd Gobaith Cymru