Thema

Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gallwch chi gyfrannu hefyd!
Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.
![]()
Snwcer
Hafan » Themâu » SnwcerSnwcer
Er fod tarddiad snwcer yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a thyfodd mewn poblogrwydd yn yr ugeinfed ganrif, daeth yn boblogaidd yn bennaf ar ddiwedd y 1960au pan ddatblygwyd teledu lliw. Ym 1969, comisiynwyd twrnamaint snwcer Pot Black gan y BBC er mwyn arddangos manteision teledu lliw. Byddai'r penderfyniad hwnnw'n mynd â'r gamp o'i leoliad traddodiadol yn y neuaddau a'r tafarndai i mewn i ystafelloedd byw ledled y wlad.
Mae Cymru wedi cynhyrchu sawl chwaraewr snwcer gyda'r gorau yn y byd dros y blynyddoedd. Roedd Doug Mountjoy, Ray Reardon a Terry Griffiths yn chwaraewyr enwog.
Ar droad y 21ain ganrif, roedd Mark Williams o Glyn Ebwy a Matthew Stevens o Gaerfyrddin ymysg y gorau yn y byd. Roeddent wedi chwarae ei gilydd mewn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd yn 2000, ac enillodd Williams o 18 ffram i 16.
Eitemau ar wefan Casglu'r Tlysau:
