Thema

Chwaraeon a hamdden yng Nghymru

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.



Gallwch chi gyfrannu hefyd!

Gallwch gyfrannu eich delweddau eich hunain i grŵp Flickr 'Cymru: Chwaraeon a hamdden' ac efallai y gwelwch hwy ar wefan Casglu'r Tlysau yn y dyfodol.

Flickr logo

Tennis

Hafan » Themâu » Tennis

Tennis

1st VI tennis team, Lowther College, Bodelwyddan, 1938

Mae ansicrwydd ynghylch tarddiad tennis, ond dechreuodd ei ffurf fodern yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae rhai haneswyr yn credu fod tennis wedi tarddu'n rhannol o 'Sphairistiké', gęm a ddatblygwyd gan Uwch-gapten Walter Clopton Wingfield o Blas Rhysnant, Brymbo, ger Wrecsam.

Ar droad yr 21ain ganrif, mae tua 200 o dwrnameintiau blynyddol yn cael eu trefnu gan Tennis Cymru, sef y corff llywodraethu ar gyfer tennis yng Nghymru. Roedd y sefydliad wedi cofrestru tua 11,000 o aelodau ac roedd ganddo bron 100 o glybiau cysylltiedig.

Mae pencampwyr tennis o Gymru'n cynnwys Elizabeth James, a chwaraeodd yn y 1960au; Mike Davies a Gerald Batrick, a enillodd y Pencampwriaethau Cwrt Caled Prydeinig ym 1960 a 1971; a Sarah Loosemore o Gaerdydd, a ddaeth yn Bencampwraig Brydeinig ym 1988. Yn ddiddorol, roedd y chwaraewr rygbi J.P.R.Williams hefyd yn chwaraewr tennis dawnus, ac enillodd Bencampwriaethau Ieuenctid Prydain ym 1966.

 

Eitemau ar wefan Casglu'r Tlysau:

GTJ16358.jpgGTJ12797.jpgGTJ10667.jpgGTJ30339.jpgGTJ10668.jpg

 

 

 


Ffynonellau
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, 2008)
Gwefan Swyddogol Tennis Cymru